Brought to you by
CYMRU'N GWEITHIO
Wynebu colli swydd
Mae Paula, 62, yn dechnegydd cyfrifyddu â chymhwyster AAT ac mae wedi gweithio ym maes cyfrifon a chyflogres ers dros 19 mlynedd. Dros y tair blynedd ddiwethaf, cafodd Paula ei diswyddo ddwywaith.
A hithau wedi gweithio i’r un cwmni am 15 mlynedd, roedd Paula wir yn meddwl ei bod hi'n 'swydd am oes' ond pan benderfynodd y cwmni ailstrwythuro, collodd ei swydd.
Llwyddodd Paula i gael gwaith newydd mewn rôl debyg, fodd bynnag, ddiwedd mis Chwefror 2020 ac ar ôl dim ond 20 mis yn y swydd, cafodd y cwmni ei uno â chwmni arall a diswyddwyd Paula eto.
Dywedodd Paula “Roeddwn yn eithaf pryderus pan gefais fy niswyddo y tro cyntaf. Rwyf bob amser wedi gweithio a chan fy mod yn agosáu at 60, roeddwn yn amau pa mor gyflogadwy fyddwn i. Roeddwn yn falch iawn pan lwyddais i gael swydd gyfrifyddu arall yn fuan wedi hynny. Deilliodd hynny o brofiad ac arbenigedd.
“Roedd yr ail ddiswyddiad yn sioc llwyr ac yn waeth oherwydd iddo ddigwydd pan ddechreuodd Covid-19 effeithio ar y DU. Roeddwn yn benderfynol fy mod yn mynd i ddod o hyd i swydd newydd ond y tro hwn, roedd fy hyder wedi cael ergyd ac roedd ansicrwydd y pandemig yn gwneud hyn yn waeth."
Nodi bwlch sgiliau a chael help gan Cymru'n Gweithio
Wrth chwilio am swyddi eraill ym maes cyllid, penderfynodd Paula, a oedd eisoes yn ymwybodol o wasanaethau Cymru’n Gweithio, ofyn i arbenigwr gyrfa Cymru’n Gweithio am gyngor.
Rhoddwyd Paula mewn cysylltiad ag un o’n cynghorwyr o’n canolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Wrth weithio gyda'i gilydd, daeth yn amlwg nad oedd gan Paula sgil hanfodol y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano mewn manyleb swydd.
Gyda chymorth ariannol rhaglen ReAct Llywodraeth Cymru, yn 61 oed dechreuodd Paula ar gwrs cyfrifon SAGE tra hefyd yn diweddaru ei sgiliau Excel.
“Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu sgiliau newydd, p'un ai i wella'ch bywyd proffesiynol neu bersonol. Fe wnes i fwynhau'r cyrsiau, roedd y profiad dysgu yn brofiad positif iawn i mi”, meddau Paula.
Symud ymlaen ar ôl colli swydd
Ers gorffen y cyrsiau, mae Paula wedi llwyddo i gael cynnig mwy nag un swydd ac mae bellach yn gweithio i elusen newydd mewn rôl gyfrifyddu.
Wrth ymgeisio am y rôl, sylwodd fod cwmnïau yn chwilio am y sgiliau yr oedd Paula wedi'u hennill trwy ei hyfforddiant ac felly mae'n ddiolchgar iawn i Cymru'n Gweithio a rhaglen ReAct am ei helpu i lwyddo.
“Mae diswyddiad yn sefyllfa eithriadol o anodd. Pan gefais fy ngwneud yn ddi-waith yr ail waith, dwi ddim yn credu fy mod wedi dod i delerau â'r tro cyntaf imi gael fy ngwneud yn ddi-waith. O feddwl yn ôl am y cyfnod hwnnw, rwy’n sylweddoli cymaint o bryder a straen roedd y sefyllfa yn ei achosi i mi.
“Alla i ddim credu mor gyflym y gwnaeth Cymru'n Gweithio fy helpu, hyd yn oed yng nghanol pandemig byd-eang. O fewn pythefnos o siarad â nhw, cefais fy nerbyn ar y cyrsiau roeddwn i eisiau eu hastudio a chefais arian heb unrhyw broblemau. Alla i ddim diolch digon am y ffordd y mae pethau wedi troi allan.”
Os fel Paula, rydych wedi cael eich heffeithio gan ddiswyddiad ac yn teimlo bod angen cymorth diswyddo arnoch neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i: cymrungweithio.llyw.cymru
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article