Y mae cyfleoedd dysgu newydd yn cyniwair ar gyfer gweithwyr yn ffatri Tenneco Automotives yn Nhafarnaubach, Tredegar, diolch i'r cyngor hyfforddiant y derbyniodd y cwmni oddi wrth Gyrfa Cymru Gwent.

Y mae'r ffatri, sy'n cydosod cydrannau ar gyfer y diwydiant cerbydau, wedi datblygu rhaglen ddysgu ar gyfer pob un o'i staff o 114, a fydd yn eu cynorthwyo hwynt i ennill medrau newydd gyda chyfrifiaduron, arweinyddiaeth tm a hyfforddiant rheolwr atebol.

Fe ddywedodd Rheolwr Adnoddau Dynol Tenneco Automotives, Lisa Rogers: "Polisi'n cwmni yw rhoi'r cyfle i'r holl weithwyr dreulio amser ar eu datblygiad personol eu hunain. Wrth wneud hyn, yr ydym yn sicrhau bod pob unigolyn yn cyflawni'i botensial llawn a bod ganddynt well dealltwriaeth o'u swyddogaeth o fewn y cwmni."

Fe wnaeth Gyrfa Cymru Gwent gynnal cyfweliadau un i un gyda phob gweithiwr yn y ffatri i bennu ble yr oedd angen hyfforddiant.

Fe eglurodd Paty Wysom, Cydgysylltydd Datblygu Gweithlu yn Gyrfa Cymru Gwent: "Fe wnaethom siarad gyda phob aelod o staff yn Tenneco i ganfod strategaeth hyfforddiant a fyddai'n cael amcanion busnes y cyflogwr i gydweddu gydag amcanion personol y gweithwyr."

Fe wnaeth y broses gyfweld ddatgelu prinder medrau cyfrifiadurol ymysg y staff a diddordeb cryf mewn medrau datblygu gyrfa, hyfforddiant rheoli ac arweinyddiaeth tm.

"Y mae'r ymateb oddi wrth y staff wedi bod yn rhagorol," meddai Lisa Rogers. "Y mae'r medrau newydd y maent yn eu datblygu nid yn unig o fudd iddynt hwy fel unigolion ond y mae ganddynt hefyd effaith gadarnhaol iawn ar eu gwaith.

"I'r rhan fwyaf o'r staff, dyma'r tro cyntaf iddynt ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth ers llawer o flynyddoedd ond y mae pawb wedi bod yn awyddus i dderbyn yr her o ddysgu. Diolch i gyngor gan Gyrfa Cymru Gwent, yr ydym yn y broses o greu gweithlu tra medrus ac yr ydym wedi nodi medrau na wyddom erioed fod rhai gweithwyr yn meddu arnynt eisoes - sydd wedi rhoi llwyfan gwirioneddol inni fynd yn ein blaenau."