Gyrfa Cymru Ar-lein (www.careerswales.com) yw rhith wasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd dwyieithog pob-oedran cyntaf y byd.
"Hwn yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y byd," meddai Rheinallt Jones, Rheolydd Prosiect Gyrfa Cymru Ar-lein. "Mae'n wasanaeth hyblyg, hygyrch a blaengar iawn a all newid wyneb arweiniad gyrfaoedd ledled Cymru.
"Bydd yn cyrraedd pobl o bob oedran a chefndir, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyfle i bawb greu llwybr ar gyfer dysgu gydol oes, o'r ysgol drwy fywyd gwaith ac i ymddeoliad."
Yn ogystal chynnwys dyfeisiau i greu a storio CV a llythyrau cais, mae hefyd yn cynnig nodweddion rhyngweithiol ar baratoi ar gyfer cyfweliadau swydd, profiad gwaith a chyngor gyrfaoedd, a gwybodaeth ar dros 600 o wahanol yrfaoedd.
Dywedodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Gall dysgwyr o bob oedran yn awr gael mynediad i gyngor ac arweiniad safon uchel ar yrfaoedd a dewisiadau dysgu mewn ffordd sy'n gweddu iddynt.
"Mewn byd lle mae dysgu gydol oes yn ofyniad i bawb i ddod ac aros yn gyflogadwy, mae hwn yn wasanaeth unigryw a fydd o fantais i bawb yng Nghymru".
Cafodd Gyrfa Cymru ar-lein ei dreialu mewn 40 ysgol a choleg ledled Cymru a gydag oedolion yn dysgu ers mis Tachwedd 2003 ac mae'n awr yn fyw yn www.careerswales.com
gyfer rhai'n ymadael 'r ysgol a choleg yng Nghymru
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article