Wnaeth Lynne Taylor o Bettws dderbyn colli'i swydd yn wirfoddol mewn swyddfa gyda chynhyrchydd dur Cymreig blaenllaw dair blynedd yn l.
hithau wedi gweithio yn y diwydiant dur am bedair blynedd ar hugain, yr oedd Lynne, 44, yn benderfynol o ganfod galwedigaeth a fyddai'n rhoi boddhad gwaith iddi. Diolch i gyngor gan Gyrfa Cymru Gwent, y mae hi wedi ennill llu o gymwysterau cyfrifiadurol ac y mae wedi canfod swydd newydd y mae hi wrth ei bodd ynddi.
Gyda chyngor gan Gyrfa Cymru Gwent a chymorth ariannol gan ELWa, fe wnaeth Lynne gofrestru ar amryw o gyrsiau ac ennill cymwysterau cyfrifiadurol mewn Excel, Microsoft a Sage a roes yr hyder iddi ymgeisio am swydd dros dro yn gweithio fel gweinyddwraig i'r tm cymorth i fusnesau yn yr Awdurdod Apeliadau Mewnfudo yng Nghasnewydd.
Fe eglurodd Lynne: "Yr oeddwn yn nerfus iawn ynglyn dychwelyd i'r coleg ond yr oedd ennill fy nghymwysterau cyfrifiadurol yn eithriadol o fuddiol imi ac fe roes yr hwb i'm hyder yr oedd arnaf ei angen i ddechrau ymgeisio am swyddi unwaith eto."
Fe ddywedodd Jan Koning, Arweinydd Tm Cyfarwyddo Oedolion yn Gyrfa Cymru Gwent: "Nid oedd Lynne yn gwybod beth yr oedd hi'n dymuno'i wneud gyda'i dyfodol ac felly fe gawsom amryw o gyfarfodydd ynglyn 'i gyrfa a thrafod yn fanwl y dewisiadau o ran swyddi a'i hanghenion hyfforddiant. Fe weithiodd Lynne yn galed yn y coleg ac enillodd gymwysterau gwerthfawr sydd wedi'i chynorthwyo hi i godi'i hunan-hyder a chanfod swydd y mae'n ei mwynhau."
Fe wnaeth Lynne barhau: "Yr wyf yn profi amodau gwaith rhagorol a gweithdrefnau hyfforddiant da yn fy swydd bresennol ac y mae aelodau'r tm yn yr Awdurdod Apeliadau Mewnfudo yn barod iawn eu cymorth.
"Yr wyf yn awr yn gweithio mewn swydd yr wyf yn ei charu ac fe edrychaf ymlaen at fynd i weithio bob dydd. Diolch i'r cymorth a gefais gan Gyrfa Cymru Gwent, yr wyf yn berson dedwyddach, mwy hyderus ac yr wyf yn edrych ymlaen at y dyfodol."
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article