Drwy gydol ei arddegau, yr oedd Tom Thrush, bachgen 17 mlwydd oed o'r Blaenau, wedi wynebu trafferthion difrifol, a arweiniodd at iddo fod yn ddigartref.
Fe droes at Gyrfa Cymru Gwent am gyngor ynglyn 'i ddyfodol ac mewn ond deuddeng mis, y mae Tom, sy'n ddyslecsig, wedi gweddnewid ei fywyd yn llwyr ac y mae'n gweithio tuag at swydd ei freuddwydion mewn arlwyo.
Fe eglurodd Tom: "Fe gwblheais gwrs adeiladu yng Ngholeg Glynebwy pan oeddwn yn 16, ond fe wyddwn nad dyma'r hyn yr oeddwn yn wirioneddol yn dymuno'i wneud ac felly fe wnaeth y coleg fy nghyflwyno i Jayne Waters o Gyrfa Cymru Gwent."
"Pan ddeuthum yn ddigartref, yr oeddwn yn benderfynol o wneud gwell bywyd i mi fy hun ond ni wyddwn sut i fynd o'i chwmpas hi. Fe euthum i weld Jayne ac fe dreuliodd hi lawer o amser gyda mi yn trafod dewisiadau gyrfa ac fe wnaeth fy nghynorthwyo i ganfod cwrs arlwyo addas yng Ngholeg Cross Keys."
Fe ddywedodd Jayne Waters, Cynghorydd Gyrfaoedd Cymunedol i Gyrfa Cymru Gwent: "Pan ddaeth Tom i'm gweld am y tro cyntaf, yr oedd ganddo'r syniad y byddai'n cael swydd mewn ffatri fel y gallai ennill arian, ond fe wyddwn ar l imi dreulio amser yn siarad gyda Tom mai ond mewn arlwyo yr oedd ganddo ddiddordeb.
"Fe anogais Tom i gael cymwysterau a fyddai'n ei alluogi ef i ddilyn gyrfa mewn arlwyo ac fe euthum ag ef i gyfweliad gyda'r tiwtor arlwyo yng Ngholeg Cross Keys, gan sicrhau y byddai'n gallu cael peth cymorth ychwanegol gyda'i anawsterau dysgu."
Y mae Tom yn awr yn mynychu Coleg Cross Keys ac y mae'n gweithio tuag at GGC (NVQ) Lefel 1 mewn arlwyo ac y mae ganddo gynlluniau i aros yn y coleg am dair blynedd arall i ennill mwy o gymwysterau, a fydd yn ei alluogi i weithio yn y diwydiant.
Fe ddywedodd Tom: "Yr wyf yn gwir fwynhau fy nghwrs arlwyo; yr oeddwn ychydig yn ofidus ar y dechrau ynglyn sut y gallwn fforddio rhai o'r llyfrau a'r cyfarpar yr oedd eu hangen ar gyfer y cwrs ond fe wnaeth Jayne fy nghynorthwyo i ennill cyllid oddi wrth 'Job Match' sy'n rhan o Gyngor Blaenau Gwent.
"Unwaith y byddaf wedi cwblhau fy nghymwysterau arlwyo yn y coleg, fe fyddwn wrth fy modd dod yn ben-cogydd a gweithio ar longau mordaith. Y mae Gyrfa Cymru Gwent wedi fy nghynorthwyo i gael fy mywyd yn ei l ar y llwybr iawn, nid wyf mwyach yn ddigartref ac yr wyf yn gweithio'n galed i sicrhau gyrfa lwyddiannus mewn arlwyo."
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article